Darren Millar AC

Cadeirydd

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd.  CF99 1NA.                                                                                                                          

 

                                                                                                                               Ein Cyf: DS/AH/TLT

27 Medi 2013

 

 

Annwyl Darren,

 

ADRODDIAD DRAFFT DIWYGIEDIG AR WEITHREDU'R FFRAMWAITH CENEDLAETHOL AR GYFER GOFAL IECHYD PARHAUS Y GIG

 

Ysgrifennaf atoch mewn ymateb i'ch gwahoddiad i fynychu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a rhoi tystiolaeth ar y mater uchod.

 

Gwnaethom weithio'n agos gyda Swyddfa Archwilio Cymru wrth iddi gynnal ei hadolygiad. Atodaf grynodeb o'r materion perthnasol â'n camau gweithredu arfaethedig mewn ymateb i’r hargymhellion niferus a wnaed ganddi yn yr adroddiad. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi rhagor o wybodaeth neu unrhyw esboniad angenrheidiol mewn ymateb i'w hargymhellion amrywiol ar 8 Hydref.

 

 

Yn gywir

 

 

 

 

David Sissling

 

Cc:      Albert Heaney, Llywodraeth Cymru

            Alistair Davey, Llywodraeth Cymru

 

Amg.   Atodiad 1  – Papur Tystiolaeth

Atodiad 2 – Crynodeb o Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru  

Atodiad 3 – Tabl o Argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ac ymateb Llywodraeth Cymru.


Atodiad 1 - Papur tystiolaeth gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Ymateb i Adroddiad Swyddfa  Archwilio Cymru ar Weithredu'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG

 

Cyflwyniad

 

1.    Croesawodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Gweithredu'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG" adeg ei gyhoeddi ym mis Mai. Roedd yr Adroddiad yn cydnabod y camau rydym yn eu cymryd i roi trefniadau mwy cynaliadwy ar waith ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP). Mae’r rhain yn cynnwys atgyfnerthu agweddau ar lywodraethu a sicrhau y gellir asesu anghenion gofal mewn modd cyson. Fodd bynnag, nododd hefyd fod angen gwneud mwy o waith i egluro agweddau ar y Fframwaith, a bod angen cyflwyno trefniadau gweithio mwy cadarn er mwyn sicrhau y caiff ei weithredu'n effeithiol.

 

2.    Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor ar yr heriau sy'n wynebu GIP ar hyn o bryd a'r rhai a wynebir yn y dyfodol fel yr amlinellwyd yn Adroddiad SAC. Mae'n nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adroddiad a'r camau rydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

 

Trosolwg

 

  1. Pecyn gofal yw GIP a gaiff ei drefnu a'i ariannu'n gyfan gwbl gan y GIG  lle caiff unigolyn ei asesu fel rhywun sydd ag angen iechyd sylfaenol. Fel rhan o'r canllawiau a nodwyd gan Weinidogion Cymru, mae Fframwaith Cenedlaethol 2010 ("y Fframwaith") yn sefydlu proses i'r GIG, ar y cyd â phartneriaid Awdurdodau Lleol, asesu anghenion iechyd, penderfynu ar gymhwysedd ar gyfer GIP a, lle bo angen, rhoi'r gofal cywir.

 

Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru

  1. Cynhaliwyd Adroddiad SAC ar y broses o weithredu'r Fframwaith a'i effeithiolrwydd o ran sicrhau yr ymdrinnir ag unigolion yn deg ac yn gyson dros gyfnod o ddeunaw mis. Nid ystyriodd yr Adroddiad  y broses o gyflawni GIP yn fanwl. Nodir canfyddiadau cychwynnol SAC yn ei hadroddiad a cheir crynodeb ohonynt yn Atodiad 2, a atodir.

5.    Mae'r Adroddiad yn argymell y gellid gwella ac egluro'r Fframwaith mewn nifer o feysydd er mwyn sicrhau y caiff ei weithredu'n gyson. Mae'n galw hefyd am ddulliau llymach o fonitro’r trefniadau perthnasol hynny.

 

Sylwadau Cyffredinol

 

  1. Roedd Adroddiad SAC yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth. Rwyf wedi derbyn ei hargymhellion, er bod fy nehongliad o lefel y risg mewn perthynas ag adolygiadau ôl-weithredol o Bowys yn wahanol i ddehongliadau SAC.

 

  1. Mae'n bwysig nodi, fel y gwnaeth SAC yn ei Hadroddiad, er bod y dull o ymdrin â GIP yn amrywio ledled y DU, ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng y dull yng Nghymru a Lloegr, ac mae'r Fframweithiau ategol ym mhob gwlad yn debyg iawn. Roeddwn yn falch o weld bod yr Adroddiad yn cydnabod bod ein Fframwaith “…wedi sicrhau rhai gwelliannau”. Mae'n galonogol hefyd fod yr Adroddiad yn cydnabod nad oes angen ailysgrifennu'r Fframwaith yn llwyr. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru. Deallaf na chododd BILl unrhyw wrthwynebiadau sylweddol â SAC mewn perthynas â'i chanfyddiadau. Fodd bynnag, dylid nodi oherwydd yr amser a gymerodd (18 mis) i SAC lunio a chyhoeddi'r Adroddiad fod angen diweddaru rhai materion er mwyn sicrhau bod ei gynnwys yn gyfredol.

 

  1. Eir i'r afael eisoes â llawer o'r materion a godwyd gan SAC. Mae gwaith i ddiwygio'r Fframwaith eisoes yn mynd rhagddo'n dda. I’r perwyl hwn, rydym wedi gweithio gyda swyddogion o SAC a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Caiff Fframwaith drafft diwygiedig ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref a bydd yn destun proses ymgynghori ffurfiol. Cyhoeddir fersiwn derfynol y Fframwaith diwygiedig yr haf nesaf.

Cyllid

  1. Mae ariannu GIP yn rhoi pwysau sylweddol ar wariant y GIG yng Nghymru . Yn ôl Adroddiad SAC, cynyddodd gwariant yn sylweddol o £66 miliwn yn 2004-05 i £298 miliwn yn 2010-11. Mae'r cynnydd hwn yng ngwariant GIP yn adlewyrchu'n rhannol nifer o ddyfarniadau llys allweddol sydd wedi arwain at newidiadau mewn canllawiau polisi a meini prawf cymhwysedd. Er bod gwariant GIP wedi gostwng am y tro cyntaf i £278 miliwn yn 2011-12, fel y dangosir yn Ffigur 1 a gymerwyd o'r Adroddiad (isod), mae ei wariant yn cyfrif am bump y cant o gostau gweithredol net BILlau o hyd. Roedd tudalen 10 o'r Adroddiad yn cydnabod bod rôl y Fframwaith wrth leihau gwariant yn aneglur, er ei fod yn derbyn "...bod o leiaf rhan o’r gostyngiad yn debygol o adlewyrchu’r £37.5 miliwn a ddarparwyd [gennym]" yn 2008-9 i foderneiddio gwasanaethau gofal cymhleth. Roedd hefyd yn ddiddorol darllen casgliad SAC, na welwyd unrhyw ostyngiad tebyg mewn gwariant yn Lloegr.

Ffigur 1 - Gwariant GIP gan fyrddau iechyd rhwng 2004-05 a 2011-12

Gwariant GIP (£ miliwn)

 

  1. Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, nad yw'r ffaith bod gwariant yn lefelu yn arwydd o dorri costau mewn perthynas â GIP. Dyrannwyd £37.5m i Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau), ar sail anghylchol i gychwyn yn 2009/10, er mwyn ariannu prosiectau GIP strategol.  Diben y £37.5m o arian strategol ychwanegol a ddyrannwyd oedd sicrhau y gellid ateb y galw mewn modd strategol yn hytrach na thrwy gomisiynu fesul achos fel y gwelwyd yn flaenorol. Roedd y cynlluniau a'r gwasanaethau a ariannwyd yn amrywio ledled Cymru, ac fe'u datblygwyd i adlewyrchu patrymau gwasanaeth lleol a threfniadau partneriaeth lleol. Roeddent yn cynnwys:

 

o   mwy o gyfleusterau cam-i-lawr er mwyn lleihau lefel yr angen, (e.e. darparu gwasanaethau gofal canolraddol mewn cartref gofal);

o   gwell mynediad at Ffisiotherapyddion a Therapyddion Galwedigaethol;

o   cynyddu nifer y lleoedd mewn cartrefi gofal ar gyfer GIP;

o   darparu cyfarpar ychwanegol;

o   mwy o nyrsys cyswllt rhyddhau;

o   ysgogi timau ailalluogi cymunedol;

o   proses fwy rheoledig o ddewis cartref gofal (gan droi at y trydydd sector am gyngor);

o   timau ymateb yn gyflym cymunedol (iechyd a gofal cymdeithasol);

o   ymestyn oriau gofal nyrsio cymunedol.

 

  1. Dosbarthwyd yr arian ar sail y Fformiwla Dosbarthu Pobl Hŷn. Disgwyliwyd i BILlau ac Awdurdodau Lleol gytuno ar eu cynigion blaenoriaeth i ddefnyddio'r arian hwn a'u cyflwyno ar y cyd.  Sianelwyd yr adnoddau drwy BILlau, a oedd yn gyfrifol am fonitro'r gwariant a rhoi cyfrif amdano.  Ni ddarparwyd unrhyw arian i Awdurdodau Lleol yn uniongyrchol.  Mae'r penderfyniad i ariannu ar sail gylchol ac wedi'i neilltuo i gychwyn wedi helpu i sicrhau y gellir parhau i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Dilëwyd y broses o neilltuo arian bellach gan fod gwariant ar gynlluniau newydd a mesurau rheoli wedi'i gynnwys mewn cynlluniau BILl. Bydd yn ofynnol i BILlau ddarparu adroddiad cryno terfynol ar sut y cafodd yr arian ychwanegol ei ddyrannu.

 

  1. Mae GIP yn rhan o'r continwwm o ofal a roddir i unigolyn. Dylai opsiynau gwasanaeth arloesol a ddatblygwyd gan Fyrddau Iechyd, ar y cyd â phartneriaid, ac a gynlluniwyd i gynnal annibyniaeth am gyn hired â phosibl, arwain at fuddiannau o ran ansawdd ac effeithlonrwydd drwy'r system gyfan.

 

Materion a godwyd gan SAC

 

Yr amrywiad a nodwyd ledled Cymru.

 

  1. Nododd yr Adroddiad amrywiad mewn gweithdrefnau a systemau ledled Cymru, gan gyfyngu ar y cyfle i gymharu sefydliadau a sectorau ar sail gyffelyb. Er bod BILlau yn gyfrifol am weithredu'r Fframwaith, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn modd cyson. Mae'r adolygiad o'r Fframwaith yn rhoi'r cyfle i nodi disgwyliadau clir a mwy o atebolrwydd yn y dyfodol. Gellir sicrhau mwy o gysondeb drwy gyfuniad o'r canlynol:

 

 

  1. Bydd y diweddariad a'r cynigion drafft yn destun ymgynghoriad ffurfiol yn ystod misoedd Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr. Ar ôl eu diwygio mewn ymateb i'r ymgynghoriad, ac yn unol â gweithdrefnau cymeradwyo ffurfiol Llywodraeth Cymru, caiff y Fframwaith wedi'i ddiweddaru, y Pecyn Cymorth, y dogfennau Contract, y Cynllun Gweithredu a'r Fframwaith Perfformiad eu lansio ddechrau haf 2014. 

 

Asesu/Cymhwysedd a'r Offeryn Cefnogi Penderfyniadau (DST)

 

  1. O dan y Fframwaith, caiff cymhwysedd unigolyn ar gyfer GIP ei asesu mewn modd cynhwysfawr gan Dîm Amlddisgyblaethol o nyrsys a meddygon. Cynhelir yr asesiadau hyn ochr yn ochr â thrafodaethau manwl â'r unigolyn a/neu ei deulu. Caiff y wybodaeth ganlyniadol ei chofnodi mewn Offeryn Cefnogi Penderfyniadau (DST) er mwyn adlewyrchu'n gywir anghenion yr unigolyn a llywio'r canlyniad yn y pen draw. Mae'r cymhlethdodau a'r amgylchiadau unigryw sy'n gysylltiedig â hawliad pob unigolyn am GIP yn golygu y gall y broses gyfan gymryd sawl diwrnod (neu sawl wythnos).

 

  1. Nododd yr Adroddiad bryderon ynghylch cysondeb y trefniadau a roddwyd ar waith gan BILlau i asesu cymhwysedd anghenion gofal yn barhaus.  Atgyfeiriwyd rhai o'r achosion hyn hefyd at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, a gynigiodd nifer o welliannau i'r Fframwaith hefyd. Eir ar drywydd llawer o'r cynigion hynny fel rhan o'n gwaith i adolygu'r Fframwaith yn ddiweddarach eleni. Mae'r rhain yn cynnwys; ystyried ffyrdd o gyflymu'r broses o asesu achosion, nodi enghreifftiau lle y gellid "blaenoriaethu" achosion i'w cwblhau, cyhoeddi canllawiau ar ad-daliadau, canllawiau i BILlau ar eu hatebolrwydd ariannol, a nodi disgwyliadau gan BILlau lle cafwyd achosion o ddiffyg gweithredu neu oedi wrth brosesu cais. 

 

  1. Yr haf hwn, gweithiodd fy swyddogion gyda'r Ombwdsmon i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd ganddo, a chyhoeddwyd canllawiau dros dro (MD/ML/0001/11) ar gyfer BILlau ar y mater hwn, i'w hatodi i'r Fframwaith presennol.  Mae'r canllawiau dros dro yn sicrhau dull gweithredu clir a chyson ym mhob BILl yng Nghymru, ac yn eu cynghori i ystyried yn rhagweithiol gymhwysedd hawliadau ôl-weithredol am GIP a gyflwynwyd ar 16 Awst 2010 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Nid yw hyn yn glir yn y Fframwaith presennol, er bod canllawiau ar wahân ar gael gan Lywodraeth Cymru (LlCC 13/2011) ar gyfer adolygiadau ôl-weithredol a gyflwynwyd cyn y dyddiad hwn.  Mae hefyd yn nodi achosion a sefyllfaoedd lle mae unigolyn wedi wynebu anfantais ariannol a lle y dylai'r BILl cyfrifol ystyried digolledu'r unigolyn.

 

Nodaf hefyd fod yr adroddiad wedi argymell rhagor o welliannau i'r DST. Defnyddir yr offeryn hwn i gofnodi gwybodaeth, o dan feysydd amrywiol (megis gwybyddiaeth/dementia, iechyd meddwl ac ati), am anghenion iechyd unigolyn, yn dilyn asesiadau proffesiynol. Cydnabu Adroddiad SAC fod anghysondeb rhwng rhai o'r meysydd a ddefnyddir yng Nghymru a Lloegr.

 

 

  1. Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, ystyriwyd y DST yn ofalus gan sawl grŵp Gorchwyl a Gorffen ers hynny. Y farn gyfredol ymhlith rhanddeiliaid yw y dylai GIG Cymru, yn unol ag ymgynghoriad ffurfiol, fabwysiadau'r DST syml a ddiweddarwyd yn ddiweddar a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd. Byddai hyn yn mynd i'r afael â'r anghysondebau a nodwyd yn Adroddiad SAC ac yn helpu i gyflwyno GIP yn ddi-dor ar ddwy ochr y ffin.  Byddai'r effaith yn cael ei monitro drwy'r Fframwaith Perfformiad.

Rheoli hawliadau ôl-weithredol am GIP.

 

19.Mae paragraff 3.12 o'r Adroddiad yn codi pryderon ynghylch y broses o reoli hawliadau ôl-weithredol am GIP, sef yr hawliadau cynharach hynny a wnaed drwy'r Prosiect Cenedlaethol gan Fwrdd Iechyd (addysgu) Powys (“BILl (a) Powys") ac yn fwy diweddar gan BILlau unigol. Fodd bynnag, credaf ein bod wedi ymateb i risgiau cynyddol cyn gynted ag y cawsant eu nodi gan BILlau ac wedi ymddwyn yn briodol.

20.Gan droi at yr hawliadau hynny a reolir gan dîm Prosiect Powys, disgwyliaf i'r rhain gael eu cwblhau erbyn mis Mehefin 2014, yn unol â dymuniadau Gweinidogion. Er fy mod yn nodi pryderon SAC, rwyf wedi cael sicrwydd penodol gan Brif Weithredwr BILl (a) Powys fod y risgiau i gyflawni terfyn amser Mehefin 2014 yn cael eu rheoli'n briodol. Y llynedd, rhoddodd Powys drefniadau prosesu diwygiedig ar waith er mwyn rheoli hawliadau'n effeithiol ac o fewn terfynau amser. Er mwyn cynorthwyo Powys gyda'r trefniadau hynny, gwnaethom sicrhau £800,000 o arian cyfatebol ychwanegol gan y BILlau. Bydd y trefniadau diwygiedig yn lleihau'r llog cronnol sy'n ddyledus ar daliadau i hawlwyr llwyddiannus tua £1.6 miliwn. Hyderaf y bydd ei gynlluniau cryfach (gyda rhywfaint o 'hyblygrwydd') yn arwain at gwblhau hawliadau erbyn y dyddiad hwnnw. O blith y 2,450 o hawliadau gwreiddiol, mae 1,279 wedi'u cwblhau a'u cau hyd yma.

21.Ar hyn o bryd, nid oes terfyn amser ar gyfer cwblhau hawliadau ôl-weithredol a reolir gan BILlau unigol. Tynnwyd sylw Llywodraeth Cymru at yr ôl-groniad o waith yn ystod hydref 2012. Codwyd y mater yn ymwneud â pherfformiad unigol gyda'r BILlau perthnasol yn syth a thrafodwyd hyn gan y Bwrdd Monitro Cenedlaethol, wedi'i gadeirio gan BILl (a) Powys, a hefyd y Grŵp Cynghori ar Weithredu GIP.

22.Ers hynny, rydym wedi cymryd camau pellach.  Ym mis Mai, gwnaethom gyhoeddi canllawiau dros dro o fewn y Fframwaith, yn ymwneud â’r hawliadau ôl-2010. Roedd y canllawiau hyn yn nodi disgwyliadau Gweinidogion y dylai pob BILl ystyried rheoli nifer yr hawliadau a brosesir ganddynt, drwy egwyddorion tebyg a'r dull gweithredu sy'n seiliedig ar brosiect a fabwysiadwyd ym Mhowys.

23.Mae gwaith yn mynd rhagddo i lywio'r ôl-groniad cyfredol o hawliadau a brosesir gan BILlau a faint o amser y bydd yn ei gymryd i'w clirio. Gofynnwyd i Gyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Gofal yn y Gymuned ac Iechyd Meddwl ymgymryd â'r dasg o leihau'r ôl-groniad hwnnw. Mae rhai eisoes wedi recriwtio timau i wneud hyn, ac mae eraill yn trafod cynigion amgen. Rydym yn monitro perfformiad BILlau mewn perthynas â hyn yn rheolaidd, a chyflwynir adroddiadau diweddaru rheolaidd i'r Cyfarwyddwr ac i Lywodraeth Cymru

24.Er mwyn sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith, sefydlwyd grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried y broses ar gyfer hawliadau ôl-weithredol. Cynigiodd y Grŵp hwnnw y dylid cyflwyno dyddiad penodol treigl ar gyfer yr hawliadau ôl-weithredol ôl-2010 hynny a reolir gan BILlau unigol. Mae'r trefniadau hyn wrthi'n cael eu trafod gyda swyddogion cyfreithiol a chyllid Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn ymarferol ac yn deg i ddarpar hawlwyr ac yn cydymffurfio â threfniadau llywodraethu ariannol BILlau unigol.  O dan y cynigion hyn, caiff hawliadau sy'n ymwneud â'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2003 a 30 Mehefin 2013 eu cyflwyno am ystyriaeth erbyn 30 Mehefin 2014 a phennir dyddiad penodol treigl blynyddol ar gyfer hawliadau a gafwyd ar ôl y dyddiad hwnnw, ynghyd â gofyniad i'w cwblhau o fewn dwy flynedd.

25.Caiff y cynigion eu cynnwys yn y diweddariad drafft i'r Fframwaith, a fydd yn destun ymgynghoriad ffurfiol fel y nodwyd yn flaenorol. Dylai'r cyfuniad o broses gwella gwasanaethau er mwyn sicrhau 'ei bod yn iawn y tro cyntaf', ynghyd â'r dyddiad penodol treigl, reoli nifer yr hawliadau ôl-weithredol yn y dyfodol.

 

26.Argymhellodd yr Adroddiad y dylid sefydlu grŵp gweithredol, wedi'i gadeirio gan un o Brif Weithredwyr y BILlau, er mwyn sicrhau bod hawliadau o'r fath yn cael eu prosesu mewn modd effeithlon, amserol a chyson. Rydym wrthi'n sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen, i'w gadeirio gan Brif Weithredwr BILl (a) Powys, er mwyn mynd datblygu’r gwaith hwn.

Arweinyddiaeth Strategol

 

27. Nodwn fod yr Adroddiad yn gwneud sylwadau am ddiffyg arweinyddiaeth strategol mewn perthynas â'r Fframwaith.

  1. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda SAC i geisio barn ar ddull gweithredu synhwyrol fel rhan o'r gwaith o adolygu'r Fframwaith. Cytunwyd eisoes ar strwythur adrodd clir, gyda Chyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Gofal yn y Gymuned ac Iechyd Meddwl yn gyfrifol am GIP yn eu BILlau. Cânt adroddiadau diweddaru misol gan arweinwyr Polisi ac Ymarfer GIP, a bydd ganddynt ddata ar berfformiad.
  2. Byddwn yn cefnogi'r gwaith hwn gyda threfniadau newydd i fesur perfformiad BILlau a'u galluogi i ddangos eu bod yn cymhwyso'r Fframwaith diwygiedig yn gyson.  Mae grŵp Gorchwyl a Gorffen yn datblygu fframwaith perfformiad, a fydd yn nodi ac yn datblygu cyfres o ddangosyddion dangosfwrdd, yn ogystal â defnyddio'r gronfa ddata GIP genedlaethol a sefydlwyd yn ddiweddar. Mae'r Fframwaith Perfformiad wrthi'n cael ei ddatblygu fel rhan o'r adolygiad cenedlaethol o'r Fframwaith.

 

Pontio rhwng GIP Plant ac Oedolion

 

  1. Mae'r Adroddiad yn ystyried bod y trefniadau pontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion yn achosi problemau. Mae'r canfyddiadau hyn yn seiliedig, i raddau penodol, ar yr ymweliadau a wnaed â'r tri BILl fel rhan o astudiaeth SAC. Ymddengys fod y pryderon yn ymwneud ag achosion lle mae unigolyn wedi cael pecyn GIP yn blentyn ond lle nad yw'n gymwys mwyach fel oedolyn yn dilyn asesiad.

 

  1. Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau: Canllawiau ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc ym mis Tachwedd 2012.  Mae'r Canllawiau hyn yn cynnwys trefniadau a chamau gweithredu cynhwysfawr y dylid eu cymryd cyn, a thrwy gydol, y broses bontio. Fel rhan o'r broses o adolygu ein Fframwaith, mae gwaith wedi'i wneud i groesgyfeirio a chysoni'r canllawiau ar y broses bontio. Mae swyddogion ac ymarferwyr yn cydweithio i fynd i'r afael â'r materion ymarferol sy'n ymwneud â gweithredu.

 

Cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol;

  1. Rwy'n cydnabod bod gan rai unigolion a gaiff eu hasesu, er nad ydynt yn gymwys ar gyfer GIP, anghenion na ellir eu diwallu’n llwyr gan Awdurdod Lleol. Mae'r Fframwaith yn nodi'n glir fod yn rhaid i BILlau weithio mewn partneriaeth â'r Awdurdod Lleol i gytuno ar eu priod gyfrifoldebau mewn pecynnau gofal ar y cyd.

 

  1. Rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i ddiogelu cyllid gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer 2013-14. Rwyf wedi nodi'n glir fod yn rhaid i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gydweithio er mwyn llywio ein rhaglen newid - gan wneud pethau'n wahanol er mwyn sicrhau newid.

 

  1. Mae'r diffyg arweinyddiaeth strategol canfyddedig ar gyfer Fframwaith GIP yn siomedig. Byddwn yn gweithio i atgyfnerthu’r gofyniad i Gyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Gofal yn y Gymuned ac Iechyd Meddwl y GIG ddarparu'r berchenogaeth angenrheidiol, fel yr argymhellwyd yn adroddiad SAC. Byddwn hefyd yn monitro eu perfformiad ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol mewn ymateb i hynny. 
  2. Byddaf yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar yr arfer da a'r protocolau a ddatblygwyd rhwng BILlau ac Awdurdodau Lleol. Rydym wedi dechrau gwaith rhagarweiniol mewn perthynas â hyn, gan gynnwys sefydlu Grwpiau Gorchwyl i fynd i'r afael â chyd-becynnau cyllid, polisïau a phrotocolau cenedlaethol, trefniadau contractio sy'n seiliedig ar ganlyniadau, a chysylltiadau â'r fframweithiau gofal cymdeithasol.  Byddwn yn gweithio gyda SAC, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod canllawiau yn y dyfodol yn gynhwysol, yn gadarn ac yn addas at y diben.  Caiff y canllawiau diwygiedig eu hategu gan adnodd ar-lein yn cynnwys dogfennau templed, astudiaethau achos ymarferol ac enghreifftiau o arfer da. Cyhoeddir hefyd gynllun clir i gefnogi'r broses o weithredu'r Fframwaith drwy hyfforddiant, adolygiadau gan gymheiriaid a ffyrdd o rannu dysgu.

 

 

Y Camau Nesaf

 

  1. Mae Gweinidogion Cymru yn ymrwymedig i adolygu'r Fframwaith, gan fynd ar drywydd y materion a godwyd yn adroddiad SAC. Yn dilyn ymgysylltu â swyddogion polisi perthnasol LlCC, a rhanddeiliaid, mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i lunio diwygiadau i'r Fframwaith erbyn diwedd mis Hydref, cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol â phartïon â diddordeb. Disgwylir i fersiwn derfynol y Fframwaith diwygiedig gael ei chyhoeddi yr haf nesaf. 

 

37. Fel rhan o'r gwaith hwn, cynhaliwyd trafodaeth ag awdur adroddiad SAC, yn ogystal â Grŵp Cynghori GIP Cymru Gyfan, Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Gofal yn y Gymuned ac Iechyd Meddwl, y Comisiynydd Pobl Hŷn, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Fforwm Gofal Cymru, cynrychiolwyr o'r trydydd sector, ac ymarferwyr rheng flaen. Ymgysylltwyd hefyd â swyddogion eraill yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys arweinwyr polisi ar gyfer iechyd meddwl, taliadau uniongyrchol ac anableddau dysgu, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a'r Prif Swyddog Nyrsio. Mae pob un ohonynt wedi cytuno nad oes angen ailysgrifennu'r Fframwaith yn llawn.

 

  1. Mae fy swyddogion wedi nodi cynllun gwaith i ddiwygio'r Fframwaith presennol a llenwi bylchau ynddo er mwyn sicrhau ei fod yn sefydlu egwyddorion clir a chanllawiau ymarferol, mewn ffordd syml. Mae'r meysydd gwaith yn cynnwys:

 

·         Cymhwyso'r Fframwaith i bobl ag anableddau dysgu, demensia a phroblemau iechyd meddwl;

·         Trefniadau ariannu ar y cyd a ffyrdd o fynd i'r afael â Thaliadau Uniongyrchol, Cyllidebau Iechyd Personol a thaliadau ychwanegol;

·         Trefniadau Craffu, Adolygiad gan Gymheiriaid a Dysgu a Rennir;

·         Fframwaith Perfformiad ar gyfer BILlau;

·         Symleiddio'r broses GIP (gan gynnwys gwella ffyrdd o rannu gwybodaeth a chyfathrebu);

·         Polisïau a Phrotocolau Cenedlaethol;

·         Fframwaith Contract Cenedlaethol GIP;

·         Rheoli Hawliadau Ôl-weithredol;

·         Ffyrdd o wella'r modd y mae Paneli GIP yn gweithio (e.e. gwaith cyfuno rhanbarthol/cenedlaethol);  

·         Rhyngweithio â fframwaith a threfniadau pontio GIP Plant. 

 

Casgliad

 

  1. Mae Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi’r heriau sy'n wynebu Gofal Iechyd Parhaus y GIG, gan gydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn eu cymryd i ymateb i'r heriau hyn. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes i fynd i'r afael â llawer o'r argymhellion. Byddwn yn mynd ar drywydd hyn ar gyflymder priodol, gan sicrhau cysondeb ledled Cymru. Bydd cyhoeddi Fframwaith diwygiedig yr haf nesaf o bwys penodol.

 

 

David Sissling

 

 

 

 

Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Prif Weithredwr, GIG, Cymru


Atodiad 2                   Crynodeb o Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

  1. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd SAC ei hastudiaeth 18 mis ar y broses o weithredu Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG 2010. Caiff Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) ei weithredu gan Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) ac awdurdodau lleol ond mae caiff y Fframwaith a chanllawiau cysylltiedig eraill eu pennu gan Weinidogion Cymru. Asesodd yr astudiaeth a oedd unigolion yn cael eu trin yn deg ac yn gyson o dan y Fframwaith ond nid archwiliodd y broses o gyflawni GIP yn fanwl, megis ailgynllunio gwasanaethau.

 

  1. Cydnabu'r Adroddiad fod y Fframwaith wedi sicrhau nifer o fuddiannau, gan gynnwys materion llywodraethu, trefniadau ar gyfer cymhwysedd parhaus a'r sail ar gyfer asesu anghenion gofal mewn modd cyson. Fodd bynnag, beirniadodd effeithiolrwydd y broses o weithredu'r Fframwaith mewn BILlau. Nododd hefyd bryderon ynghylch tegwch a chysondeb prosesau gwneud penderfyniadau am GIP mewn BILlau a rhyngddynt. I grynhoi, nododd yr Adroddiad y canlynol:

 

·       roedd materion yn ymwneud â llywodraethu GIP mewn BILlau wedi'u hatgyfnerthu, ond ychydig iawn o sicrwydd a gafwyd bod pobl yn cael eu trin yn gyson ac yn deg;

·       roedd effeithiolrwydd trefniadau cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn amrywio'n fawr;

·       gwelwyd gostyngiad mewn gwariant a niferoedd achosion GIP, er nad oedd effaith y Fframwaith ar hyn yn glir. Nododd yr adroddiad dystiolaeth gymysg mewn perthynas â chysondeb a graddau'r modd yr oedd unigolion a'u teuluoedd yn cael eu cynnwys yn y broses asesu;

·       er gwaethaf arian ychwanegol a ddyrannwyd iddo, roedd risg sylweddol na fyddai'r prosiect cenedlaethol i ddelio â hawliadau ôl-weithredol am GIP yn prosesu'r holl achosion erbyn y terfyn amser y cytunwyd arno, sef mis Mehefin 2014, ac mae ôl-groniadau newydd o hawliadau ôl-weithredol wedi datblygu mewn BILlau;  

·       nid ymdriniwyd â llawer o'r heriau i benderfyniadau o ran cymhwysedd GIP yn brydlon, ac ni phennwyd unrhyw derfyn amser ar gyfer yr achosion y mae BILlau yn ymdrin â hwy.

3.  Mae'r Adroddiad yn argymell y gellid gwella'r Fframwaith a'i egluro'n well mewn nifer o feysydd er mwyn sicrhau dull gweithredu mwy cyson ac i'w effaith gael ei fonitro yn agosach:

Cynigiodd y dylai Llywodraeth Cymru:

·          atgyfnerthu'r canllawiau a'r trosolwg strategol a roddir i BILlau gan y Fframwaith;

·          cyflwyno offeryn sgrinio i bennu a oes angen asesiad GIP ar rywun;

·          cymharu meysydd yr Offeryn Cefnogi Penderfyniadau sy'n helpu i bennu asesiadau GIP, yng Nghymru a Lloegr, i gadarnhau bod meysydd Cymru yn rhesymol, er enghraifft mewn perthynas â gwybyddiaeth;

·          ei gwneud yn ofynnol i BILlau gwblhau a gweithredu'r hunanasesiad a'r rhestr gwirio gwelliannau a ddatblygwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i ategu'r adroddiad hwn;

·          gosod a chyhoeddi terfyn amser ar gyfer cwblhau'r holl hawliadau ôl-weithredol sy'n cael eu prosesu gan BILlau;

·          sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gyda chynrychiolaeth ar lefel swyddogion gweithredol o bob rhan o'r BILlau ac wedi'i gadeirio gan Brif Weithredwr Bwrdd BILl. Bydd hyn yn sicrhau bod pob achos ôl-weithredol, a gaiff ei drin naill ai gan Brosiect Powys neu gan BILlau unigol, yn cael ei brosesu'n effeithlon ac yn unol â'r amserlen a bennwyd.

Cynigiodd y dylai BILlau:

·          ddyrannu cyfrifoldeb cyffredinol am GIP ar lefel cyfarwyddwyr BILl, gyda chyfrifoldeb penodol am sicrhau cysondeb yn y modd y cymhwysir y Fframwaith ar draws y BILl, digonolrwydd yr adnoddau staff a ddyrennir i GIP, a chydweithio effeithiol â gwasanaethau cymdeithasol;

·          llunio trefniadau i brosesau ar gyfer dod i benderfyniadau o ran cymhwysedd GIP, a sampl o benderfyniadau GIP, gael eu hadolygu gan gymheiriaid;

·          hyrwyddo dull o rannu'r dysgu o adolygiadau gan gymheiriaid ledled Cymru.

 

Cynigiodd y dylai Llywodraeth Cymru a BILlau weithio i ddatblygu:

·          protocolau a dogfennaeth genedlaethol, gan gynnwys trefniadau llwybr cyflym, i gael caniatâd, a rhannu polisïau a dogfennaeth leol rhwng BILlau;

·          dull gweithredu cyffredin o ddelio ag achosion ôl-weithredol sy'n cael eu prosesu gan BILlau, a sicrhau bod y dull gweithredu yn fras yn unol â'r dull gweithredu a fabwysiadwyd gan dîm Prosiect Powys.

4.            Mae tabl yn dangos yr argymhellion hynny ar gyfer Llywodraeth Cymru yn Nogfen 2. Mae swyddogion yn gweithio gyda SAC i ddatblygu'r Adroddiad hwn a gweithredu ar y camau nesaf. Cydnabu SAC, oherwydd hyd yr astudio, fod rhai o'r materion a godwyd wedi newid o'r hyn a gofnodwyd. Roedd y swyddogion yn teimlo bod yr Adroddiad, fodd bynnag, yn gywir ym mhob ffordd berthnasol ac yn gynrychiolaeth deg o'r wybodaeth a gasglwyd. Fodd bynnag, eglurodd y swyddogion fod eu barn hwy yn wahanol i farn SAC ar hawliadau ôl-weithredol. Roeddent yn credu bod buddsoddiad ychwanegol Gweinidogion (a BILlau) er mwyn helpu Prosiect Powys i drin hawliadau, yn lleihau'r risg o ran cyflawni'r gwaith o fewn y terfyn amser, sef mis Mehefin 2014. Asesodd SAC fod y risg yn un "sylweddol", ond roedd swyddogion yn dawel eu meddwl bod gan Bowys gynlluniau a oedd wedi'u hatgyfnerthu'n sylweddol (gyda rhywfaint o hyblygrwydd) i gyrraedd y targed hwn a bod ganddynt hyder cynyddol y câi'r cynlluniau eu cyflawni.  Tynnodd Adroddiad SAC sylw hefyd at y ffaith bod yr ôl-groniad o hawliadau ôl-2010, sef cyfrifoldeb BILlau unigol, wedi cronni.

Camau Nesaf - Rhaglen Waith

5.            Ers ei gyhoeddi, cynhaliwyd trafodaeth ag awdur Adroddiad SAC, yn ogystal â Grŵp Cynghori GIP Cymru Gyfan, Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Gofal yn y Gymuned ac Iechyd Meddwl, y Comisiynydd Pobl Hŷn, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Fforwm Gofal Cymru.  Ymgysylltwyd hefyd â swyddogion eraill yma, gan gynnwys arweinwyr polisi ar gyfer iechyd meddwl, taliadau uniongyrchol ac anableddau dysgu, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a'r Prif Swyddog Nyrsio. Mae pob un ohonynt wedi cytuno nad oes angen ailysgrifennu'r Fframwaith yn llawn. Er mwyn sicrhau bod y Fframwaith yn darparu canllawiau clir, ymarferol a hawdd eu defnyddio, fodd bynnag, nodwyd y meysydd gwaith canlynol lle mae angen llenwi bylchau yn y Fframwaith a sicrhau ei fod yn sefydlu egwyddorion clir a chanllawiau ymarferol, mewn ffordd syml:

 

·          cymhwyso'r Fframwaith i bobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl;

·          trefniadau ariannu ar y cyd a ffyrdd o fynd i'r afael â Thaliadau Uniongyrchol;

·          cyllidebau iechyd personol a thaliadau ychwanegol;

·          trefniadau craffu, adolygiad gan gymheiriaid a dysgu a rennir;

·          mesurau perfformiad ar gyfer BILlau;

·          gwella meini prawf, cymhwysedd a phrosesau asesu GIP, gan gynnwys MDT, DST a sut y gallant fynd i'r afael â materion fel dementia;

·          gwella'r offer a ddefnyddir a'r bobl sy'n gysylltiedig â dod i benderfyniad, caniatâd, cyfathrebu, amserlenni ac adolygiadau;

·          polisïau a phrotocolau cenedlaethol;

·          Fframwaith Contract Cenedlaethol GIP;

·          hawliadau ôl-weithredol;

·          gwella'r modd y mae Paneli GIP yn gweithio (e.e. drwy waith cyfuno rhanbarthol/cenedlaethol); 

·          cysylltiadau â fframwaith GIP Plant i fynd i'r afael â materion fel pontio rhwng GIP Plant ac Oedolion.

6.            Mae gwaith ar y gweill bellach i ddiwygio drafft newydd y Fframwaith, ynghyd ag enghreifftiau achos ymarferol. Cynhelir y gwaith hwn dros yr hydref gyda nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen â thema gyda chylch gorchwyl tynn, a'r aelodau'n cael eu dewis o blith rhanddeiliaid amrywiol, arweinwyr polisi, arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes, staff rheng flaen a chynrychiolwyr defnyddwyr a gofalwyr. Bydd cyfarfodydd pellach â grwpiau diddordeb penodol yn pennu a oes angen gweithgorau ychwanegol. Bydd eu canfyddiadau'n bwydo i mewn i ddogfen ymgynghori ddrafft, a chaiff ei chyflwyno i'w chymeradwyo erbyn diwedd mis Hydref. Bydd ymgynghoriad ffurfiol, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau sioeau teithiol i randdeiliaid, yn cael ei gynnal rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr 2014.

7.            Bydd ymgynghoriad ffurfiol, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau sioeau teithiol i randdeiliaid, yn cael ei gynnal rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr 7. Bydd yr amserlen cyhoeddi rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2014. Cefnogir y gwaith cyhoeddi gan Gynllun Gweithredu, ynghyd â dull o gefnogi dysgu ac arfer gorau, megis fforwm cenedlaethol, yn ogystal â datblygu fframwaith perfformiad.


ATODIAD 3

 

Rhestr o Argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ac Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Cynnydd hyd yma

1. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i hadolygiad o'r Fframwaith sydd ar y gweill, ddefnyddio'r canfyddiadau o'r adroddiad hwn, i wella'r canllawiau i fyrddau iechyd a ddarperir gan y Fframwaith.

 

DERBYN

Cydweithiwyd ag Awdur yr Adroddiad drwy gydol ei ddatblygiad a'r sail ar gyfer ein hadolygiad ni ein hunain o'r Fframwaith yw'r canfyddiadau.  Rydym yn archwilio:

 

       sut y dylid cymhwyso'r Fframwaith ar gyfer pobl ag anabledd dysgu neu broblem iechyd meddwl;

       trefniadau ariannu ar y cyd;

       monitro contractau gofal cartref;

       y polisïau a'r protocolau lleol y mae angen iddynt fod ar waith mewn byrddau iechyd; ,

       trefniadau craffu mewn byrddau iechyd, i annog cysondeb rhwng paneli, ymgysylltu a chyfathrebu ag awdurdodau lleol, a chysondeb y broses graffu waeth beth fo'r costau dan sylw.

 

Mae'r grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn mynd i'r afael â'r themâu hyn ac maent wrthi'n llunio'r diweddariadau i'r Fframwaith sy'n ofynnol. Caiff y fersiwn ddrafft ei chwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2013 a bydd yn destun ymgynghoriad ffurfiol yn ystod misoedd Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr.

 

Mewn rhai achosion, mewn ymateb i ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae'r grwpiau Gorchwyl a Gorffen wedi ehangu ar yr argymhellion yn yr Adroddiad. Er enghraifft, yn ogystal â monitro contractau gofal cartref, cydnabuwyd bod angen dull gweithredu mwy cadarn o gomisiynu GIP a Gofal Nyrsio a Ariennir. Erbyn Ebrill 2014, caiff Cam 1 o brosiect i ddatblygu contract cenedlaethol ei gyflwyno. Bydd Cam 1 yn darparu manyleb gwasanaeth safonol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, telerau ac amodau a dogfennaeth adolygu ar gyfer cleifion sy'n cael gofal nyrsio a ariennir. Bydd hyn yn benodol i'r GIG, ond bydd Cam 2 o'r prosiect yn defnyddio dull partneriaeth, gan gysoni gwaith a wneir gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

I gefnogi'r broses weithredu, caiff y canllawiau arfer cyfredol eu diweddaru hefyd a'u hymgorffori yn y Fframwaith. Caiff Cynllun Gweithredu ei gyhoeddi ar yr un pryd â'r Fframwaith wedi'i ddiweddaru.

 

2. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru:

 

a) atgyfnerthu ei throsolwg strategol o Fframwaith GIP, gan ganolbwyntio ar sicrhau mwy o gysondeb wrth gymhwyso'r Fframwaith a gweithredu'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn;

 

 

a

 

b) ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd neilltuo cyfrifoldeb cyffredinol am GIP ar lefel cyfarwyddwr bwrdd, gyda chyfrifoldeb penodol am sicrhau cysondeb yn y modd y cymhwysir y Fframwaith ar draws y bwrdd iechyd, digonolrwydd yr adnoddau staff a ddyrennir i GIP, a chydweithio effeithiol â'r gwasanaethau cymdeithasol.

 

DERBYN

 

 

 

 

Mae grŵp Gorchwyl a Gorffen yn datblygu fframwaith perfformiad, gyda chyfres o ddangosyddion dangosfwrdd, yn ogystal â defnyddio'r gronfa ddata GIP genedlaethol a sefydlwyd yn ddiweddar. Bydd hwn yn barod i'w roi ar waith o ddyddiad lansio'r Fframwaith wedi'i ddiweddaru. Cynhelir gwerthusiad sylfaenol a chaiff perfformiad ei fesur er mwyn bwrw ymlaen â sicrhau gwelliant parhaus mewn gwasanaethau.

 

 

Yn dilyn cyhoeddi'r Adroddiad drafft, cytunwyd ar strwythur atebolrwydd ac adrodd â Chyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Gofal yn y Gymuned ac Iechyd Meddwl. Caiff hyn ei adolygu eto gan fod ad-drefnu Byrddau Iechyd yn fewnol yn golygu bod atebolrwydd am GIP a Gofal Nyrsio a Ariennir wedi symud, mewn rhai ardaloedd, i bortffolios Prif Swyddogion Gweithredu a Chyfarwyddwyr Nyrsio.

3. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru:

 

a) ailystyried manteision cyflwyno offeryn sgrinio i bennu a oes angen asesiad GIP ar rywun;

a

 

b) adolygu'r gwahaniaethau rhwng meysydd Offeryn Cefnogi Penderfyniadau (DST) yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig ar gyfer gwybyddiaeth, i gadarnhau bod meysydd Cymru yn rhesymol

DERBYN

 

 

 

Mae'r grwpiau Gorchwyl a Gorffen wedi ystyried offer sgrinio amrywiol a'r farn gyfredol yw y dylai Cymru fabwysiadu Rhestr Wirio Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Lloegr.

 

Cytunir hefyd fod Offeryn Cefnogi Penderfyniadau yr Adran Iechyd a ddiweddarwyd yn ddiweddar yn haws i'w ddefnyddio ac y dylai gael ei fabwysiadu yng Nghymru (yn amodol ar ymgynghoriad). Byddai hyn yn mynd i'r afael â'r pryderon ynghylch anghydraddoldeb e.e. wrth asesu pobl sydd â dementia ac y byddai'n lleddfu materion trawsffiniol.

 

4. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru:

 

a) ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lunio trefniadau i brosesau ar gyfer dod i benderfyniadau o ran cymhwysedd GIP, a sampl o benderfyniadau GIP gael eu hadolygu gan gymheiriaid; a

 

b) hyrwyddo ffordd o rannu'r dysgu sy'n deillio o adolygiadau gan gymheiriaid  ledled Cymru.

DERBYN

 

 

 

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn datblygu atebion ymarferol ar gyfer adolygiad gan gymheiriaid. Caiff ei allbynnau eu cyflwyno erbyn mis Tachwedd 2013.

 

 

 

 

Mae rhanddeiliaid yn ystyried dulliau o rannu dysgu, nid yn unig o adolygiadau gan gymheiriaid ond hefyd o adroddiadau a wneir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac o faterion a gaiff eu dwyn i'n sylw gan aelodau o'r cyhoedd. Mae'r cynigion hyd yma yn cynnwys cynhadledd flynyddol, cylchlythyrau a fforwm ar-lein 'staff yn unig' ar gyfer datrys problemau.

 

5. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru:

 

a) ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd gwblhau a gweithredu'r hunanasesiad a'r

rhestr gwirio gwelliannau a ddatblygwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i ategu'r adroddiad hwn;

 

a

 

b) gweithio gyda byrddau iechyd i ddatblygu protocolau a dogfennaeth genedlaethol, er enghraifft ar gyfer trefniadau llwybr carlam ac er mwyn cael caniatâd, ac annog mwy o rannu polisïau a dogfennaeth leol rhwng byrddau iechyd

DERBYN

 

 

 

Argymhellir bod byrddau iechyd yn cynnal yr hunanasesiad fel rhan o werthusiad sylfaenol o berfformiad (gweler adran 2) a chaiff hyn ei ymgorffori mewn adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru.

 

 

 

 

Mae'r adolygiad wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i symleiddio'r broses GIP gyfan a datblygu polisïau a phrotocolau templed, a gaiff eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r Fframwaith wedi'i ddiweddaru, fel rhan o 'Becyn Cymorth GIP' ar-lein. Nododd y grŵp Gorchwyl a Gorffen bedwar pwynt cyfathrebu allweddol â defnyddwyr a gofalwyr y bydd angen ymateb iddynt yn ysgrifenedig ac ar lafar. Mae dogfennau safonol wrthi'n cael eu datblygu gyda chymorth Age Cymru a swyddogion o Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn.

6. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru:

 

a) gosod terfyn amser ar gyfer cwblhau'r holl hawliadau ôl-weithredol sy'n cael

eu prosesu gan fyrddau iechyd;

 

 

 

 

 

 

b) gweithio gyda byrddau iechyd i gytuno ar ddull manwl a chyffredin o ddelio â'r achosion ôl-weithredol sy'n cael eu prosesu gan fyrddau iechyd, ac yn sicrhau bod y dull gweithredu yn fras yn unol â'r un a fabwysiadwyd gan dîm prosiect Powys; a

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

c) sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen gyda chynrychiolaeth ar lefel swyddogion gweithredol o bob rhan o'r byrddau iechyd ac wedi'i gadeirio gan brif swyddog gweithredol bwrdd iechyd, er mwyn sicrhau bod pob achos ôl-weithredol, p'un a yw'n cael ei drin gan brosiect Powys neu gan fyrddau iechyd unigol, yn cael ei brosesu'n effeithlon.

DERBYN

 

 

Mae'r grŵp Gorchwyl a Gorffen sy'n edrych ar y broses hawliadau ôl-weithredol wedi cynnig dyddiad penodol treigl ar gyfer hawliadau ôl-weithredol yn y dyfodol. Mae'r cynnig wrthi'n cael ei drafod â swyddogion cyfreithiol a chyllid Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn ymarferol. 

 

Dylai'r cyfuniad o broses gwella gwasanaethau er mwyn sicrhau 'ei bod yn iawn y tro cyntaf', ynghyd â'r dyddiad penodol treigl, reoli nifer yr hawliadau ôl-weithredol yn y dyfodol; bydd hwn yn ddangosydd perfformiad. 

 

Cynhaliwyd gwaith i ymchwilio i'r ôl-groniad cyfredol o hawliadau ôl-2010 sy'n cael eu prosesu ar gyfer byrddau iechyd a faint o amser y bydd hyn yn ei gymryd i'w clirio. Gofynnwyd i Gyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Gofal yn y Gymuned ac Iechyd Meddwl ymgymryd â'r dasg o leihau'r ôl-groniad hwnnw. Mae rhai eisoes wedi recriwtio timau, ac mae eraill yn trafod cynigion amgen. Cyflwynir adroddiadau diweddaru rheolaidd i'r Cyfarwyddwyr ac i Lywodraeth Cymru.

 

Ym mis Mai cyhoeddwyd Canllawiau Gweinidogol (MD/ML/001/00), wedi eu hatodi i'r Fframwaith presennol. Roedd y canllawiau hyn yn cynghori Byrddau Iechyd Lleol i fabwysiadu ymagwedd gyson wrth gynnal adolygiadau ôl-weithredol a gyflwynwyd o 16 Awst 2010 (ac felly a reolir gan Fyrddau Iechyd Lleol unigol). Gwnaed hyn fel bod cymhwysedd ymgeiswyr yn “…..actively considered by the relevant [Local] Health Board and handled in a similar manner to those prior to that date, on an all-Wales basis by Powys [Teaching] Health Board, under WGC13/2011]

 

Fel yr argymhellwyd yn yr Adroddiad, mae'r grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei sefydlu a chyfarfodydd yn cael eu trefnu. Caiff ei gadeirio gan Brif Weithredwr Bwrdd (Addysgu) Iechyd Lleol Powys.